GWAG TEITL Y SWYDD

Gwneud Cais

Darlithydd - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Wrecsam

£22,827 - £38,629 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Dyddiad cau:19/07/2018

Darlithydd - Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wrecsam
Cyflog £22,827 - £38,629 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol
Parhaol, Llawn Amser

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanhyderus, creadigol a llawn dychymyg i ymuno â ni fel Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ein safle Iâl.

Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth a chyngor i bob myfyriwr. Byddwch hefyd yn gweithio gyda thiwtoriaid o feysydd busnes eraill i drafod materion fel adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion perthnasol eraill. Bydd rhaid i chi gynhyrchu a chwblhau dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda chymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol sy’n gysylltiedig ag iechyd, yn ogystal â chymhwyster addysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR neu City & Guilds 7407, neu sy’n fodlon gweithio tuag at hynny. Byddwch yn gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol, ac yn gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w chyflwyno. Byddwch yn aelod cadarn o dîm gyda’r gallu i feithrin perthnasau gwaith effeithiol.

Byddem yn croesawu ceisiadau gan weithwyr iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn newid gyrfa.

Byddwch yn gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu. Byddwch hefyd yn gwybod am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo gyda’r anghenion hynny mewn amgylchedd dysgu. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn deall datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol chi eich hun. Dylech fod yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill ac yn gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd.

Mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Byddwn yn gofyn am ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg hefyd.

Dyddiad Cau: 19/07/2018


Gwneud Cais