GWAG TEITL Y SWYDD

Gwneud Cais

Asesydd Gwneuthuro a Weldio

Glannau Dyfrdwy

£25,139 - £28,331 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Dyddiad cau:19/12/2018

Asesydd Gwneuthuro a Weldio
Glannau Dyfrdwy
Cyflog £25,139 - £28,331 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Ydych chi’n angerddol am eich gwaith ac yn chwilio am swydd lle gallwch chi rannu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y diwydiant gydag eraill? Ydych chi’n awyddus i ymuno â sefydliad sy’n buddsoddi’n helaeth yn ei weithwyr, ac sy’n gallu cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus?

Os felly, gallai’r swydd hon fod yn gyfle perffaith i chi!

Yma yng Ngholeg Cambria, rydym yn chwilio am Asesydd Gwneuthuro a Weldio i asesu’r ystod lawn o gymwysterau NVQ lefel 2, 3, 4 a 5.

Gan gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau addas, eu hannog, eu mentora a darparu cyfleoedd dysgu iddynt, byddwch yn gyfrifol am fonitro eu cynnydd tuag at ennill eu cymwysterau gan gynnig adborth adeiladol a’u helpu i lunio portffolio o dystiolaeth.

Y cyfan rydym yn gofyn amdano yw bod gennych gymhwyster proffesiynol cysylltiedig lefel 4 o leiaf, a bod gennych gymhwyster asesydd, neu eich bod yn fodlon gweithio tuag at hynny. Bydd gennych bersonoliaeth glên a phositif, a byddwch yn gallu dangos bod gennych angerdd go iawn am y diwydiant.

Byddai’n ddymunol petaech yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad, gallwn addo i chi; gynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael, talebau gofal plant o aberthu cyflog, gostyngiadau ar nifer o gyrsiau nos y coleg, cyfraniad o hyd at 1/3 at ffioedd cyrsiau proffesiynol, gostyngiad ar aelodaeth gampfa a llawer mwy!

Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Amdanom ni

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Dyddiad Cau: 19/12/2018


Gwneud Cais