GWAG TEITL Y SWYDD

Gwneud Cais

Darlithydd mewn Gwaith Plymwr

Wrecsam

£22,829 - £38,629 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Dyddiad cau:03/01/2019

Darlithydd mewn Gwaith Plymwr
Wrecsam
Cyflog £22,829 - £38,629 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Ydych chi’n angerddol am eich gwaith ac yn chwilio am swydd lle gallwch chi rannu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y diwydiant gydag eraill? Ydych chi’n awyddus i ymuno â sefydliad sy’n buddsoddi’n helaeth yn ei weithwyr, ac sy’n gallu cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus?

Os felly, gallai’r swydd hon fod yn gyfle perffaith i chi!

Rydym yn chwilio am ddarlithydd mewn Gwaith Plymwr i ymuno â ni ar ein safle Ffordd y Bers mewn swydd barhaol, lawn amser.

Yn y swydd hon, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad, cymorth a chyngor addysgol gwerthfawr i fyfyrwyr ac yn cwblhau a chynhyrchu dogfennau y cytunwyd arnynt fel; cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb, erbyn y dyddiad cau.

Os oes gennych gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol, a chymhwyster addysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR a City & Guilds 7407, yna hoffem gael clywed gennych chi.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol, arloesol a llawn dychymyg, sy'n gallu dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, ac yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill. Byddwch yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun, yn ogystal â chanfod, dehongli ac addasu gwybodaeth benodol i’w harfer. Byddwch yn asesu deilliannau dysgu a chyflawniadau dysgwyr hefyd.

Byddai’n ddymunol petaech yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad, gallwn addo i chi; gynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael, talebau gofal plant o aberthu cyflog, gostyngiadau ar ystod o gyrsiau nos y coleg, cyfraniad o hyd at 1/3 at ffioedd cyrsiau proffesiynol, disgownt ar aelodaeth gampfa a llawer mwy!

Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Amdanom Ni

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Dyddiad Cau: 03/01/2019


Gwneud Cais