GWAG TEITL Y SWYDD

Gwneud Cais

Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus

Glannau Dyfrdwy / Wrecsam

£22,827 - £38,629 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Dyddiad cau:03/01/2019

Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus
Glannau Dyfrdwy / Wrecsam
Cyflog £22,827 - £38,629 y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol
Swydd achlysurol, a delir fesul awr

Ydych chi’n angerddol am eich gwaith ac yn chwilio am swydd lle gallwch chi rannu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y diwydiant gydag eraill? Ydych chi’n awyddus i ymuno â sefydliad sy’n buddsoddi’n helaeth yn ei weithwyr, ac sy’n gallu cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus?

Os felly, gallai’r swydd hon fod yn gyfle perffaith i chi!

Rydym yn chwilio am unigolyn hunan-hyderus, creadigol a llawn dychymyg i ymuno â ni yng Ngholeg Cambria fel Darlithydd yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn swydd achlysurol lle byddwch yn cael eich talu fesul awr.

Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth a chyngor i bob myfyriwr. Byddwch hefyd yn gweithio gyda thiwtoriaid o feysydd busnes eraill i drafod materion fel adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion perthnasol eraill. Bydd rhaid i chi gynhyrchu a chwblhau dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda chymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol, a chymhwyster addysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR neu City & Guilds 7407. Byddwch yn gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol, ac yn gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w chyflwyno. Byddwch yn aelod cadarn o dîm gyda’r gallu i feithrin perthnasau gwaith effeithiol.

Byddwch yn gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu. Byddwch hefyd yn gwybod am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo gyda’r anghenion hynny mewn amgylchedd dysgu. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn deall datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol chi eich hun. Dylech fod yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill ac yn gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd.

Mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad, gallwn addo i chi; gynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael, talebau gofal plant o aberthu cyflog, gostyngiadau ar ystod o gyrsiau nos y coleg, cyfraniad o hyd at 1/3 at ffioedd cyrsiau proffesiynol, disgownt ar aelodaeth gampfa a llawer mwy!

Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Amdanom Ni

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Dyddiad Cau: 03/01/2019


Gwneud Cais