GWAG TEITL Y SWYDD

Gwneud Cais

Darlithydd - Mynediad i Addysg Uwch - Bioleg

Wrecsam

£22,827 - £35,919 y flwyddyn pro-rata, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Dyddiad cau:03/01/2019

Darlithydd - Mynediad i Addysg Uwch - Bioleg
Wrecsam
Cyflog £22,827 - £35,919 y flwyddyn pro-rata, yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol
Parhaol, Rhan-amser (18.5 awr yr wythnos)

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanhyderus, creadigol a llawn dychymyg i gyflwyno’r cwrs Mynediad i Addysg Uwch - Bioleg ar ein safle Iâl. Mae hon yn swydd barhaol, ran-amser.

Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth a chyngor i bob myfyriwr. Byddwch hefyd yn gweithio gyda thiwtoriaid o feysydd busnes eraill i drafod materion fel adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion perthnasol eraill a chynhyrchu a chwblhau dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda chymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol, a chymhwyster addysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR neu City & Guilds 7407. Byddwch yn gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol ac yn gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w chyflwyno. Byddwch yn aelod cadarn o dîm gyda’r gallu i feithrin perthnasau gwaith effeithiol.

Bydd gennych brofiad o ddysgu Bioleg ar lefel debyg os nad uwch.

Byddai’n dra dymunol petaech yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Byddwn yn gofyn am ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg hefyd.

Dyddiad Cau: 03/01/2019


Gwneud Cais